Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Cymru a Chaethwasiaeth

Dyddiad i'w nodi gyda diolchgarwch ydyw Mawrth 26 1807, pan gafwyd mesur seneddol i wahardd y fasnach mewn caethweision o fewn trefedigaethau Prydain. Y Crynwyr oedd y cyntaf i godi llais yn erbyn yr anfri hwn a bu un o'u plith, Thomas Clarkson yn nodedig am ei ymdrechion.

O gael ein hatgoffa eleni am y bennod dda hon fe'i cawn yn anodd credu fod arweinwyr digon parchus yn eu dydd wedi cyfiawnhau a chymeradwyo y fath greulondeb. Ond wedyn pwy ŷm ni i farnu o gofio'r holl erchyllterau a gyflawnwyd yn ein hoes ninnau.

Rhaid codi llais ym mhob cyfnod yn erbyn yr ymarfer o drais a dinoethi yr elw ariannol sydd mor aml yn glwm wrtho. Y prif reswm dros hybu caethwasiaeth oedd yr elw enfawr a geid drwyddo ac a gyfoethogodd Lerpwl, Bryste a Llundain. A sylweddolwn mai ariangarwch ac nid creulondeb sy'n gyrru'r Fasnach Arfau yn ei blaen heddiw.

Fe holir pa un a ddylai Llywodraeth Prydain ymddiheuro a gwneud iawn am y fasnach ysgeler yr elwodd gymaint arni. Anodd gweld ystyr mewn ymddiheuro am gamwedd cenhedlaeth a fu. A pha fodd y gellid gwneud iawn am holl anghyfiawnderau ymerodrol Prydain?

Fodd bynnag, fe fynnodd Peter Hain gyfaddef yn edifeiriol ran Cymru yn y fasnach annynol. Diau i lawer elwa'n anuniongyrchol a bu gan unigolion o Gymru ran cwbl weithredol yn y fasnach. Dyna Richard Pennant, Castell Penrhyn a'i blanhigfeydd cotwm yn Jamaica. (Fe honnir ei fod yn fawr ei ofal am ei gaethweision efallai ar sail yr eisiau - 'Nid wyf yn dymuno gweld y Negroaid a'r gwartheg yn cael eu gorweithio'.)

Wrth gwrs peth diystyr ydyw priodoli euogrwydd i Gymru fel gwlad gan nad oedd ganddi ei llywodraeth i ddeddfu ar y mater. A hyd yn oed yn awr gyda'r Cynulliad yn sicrhau hawliau cynyddol nid oes gennym lais gwleidyddol ar faterion rhyngwladol. Nid oedd modd i Gymru fynegi barn ar y rhyfel yn y Malfinas gynt neu ar ymosodiad anghyfreithlon ar Irac.

A phan drafodir dyfodol Trident neu gais Bush ar i Brydain fod yn rhan o'r darian atal taflegrau, yn sicr ni ofynnir am farn Cymru. Ond er gwaethaf y cyfyngiadau sydd arnom a hynny mewn dyddiau a welodd Tony Blair yn gwisgo mantell unben yn ei bolisïau tramor, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dal i godi ein llais dros yr hyn sy'n wâr a dynol.

A bydded i fuddugoliaeth 1807 fod yn her inni. Os trechwyd masnach mor nerthol â chaethwasiaeth paham na ellir dwyn y fasnach arfau i ben? A dyna galondid oedd clywed Mohamed ElBaradei, pen dyn yr Asiantaeth Egni Atomig Ryngwladol, yn dweud y dylem drafod arfau niwclear fel y trafodwn gaethwasiaeth a hilyddiaeth. Dyna galon y gwir.

M. Islwyn Lake