Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

David Thomas
(1880-1967)

Rwyf yn y broses o sgwennu llyfr i bobl ifanc am wrthwynebydd cydwybodol. Mae gen i sail i'r cymeriad yn y llyfr gan mai dyna oedd fy nhaid, David Thomas (1880-1967). Athro yn ysgol gynradd Talysarn oedd o ym 1916, pan gafodd ei alw i'r Fyddin. Roedd wedi bod yn dysgu dynion i wynebu'r Tribiwnlys, ac yn sgwennu'n ddyfal i'r Wasg i wrthwynebu'r Rhyfel, ond yn y diwedd daeth ei dro ef i sefyll ger bron y swyddogion.

Yn ei achos ar 2 Mai 1916, dywedodd,

'I am conscientiously opposed to everything that destoys human life. I cannot feel justified, under any circumstances, in destroying men's lives for the sake of anything of less value.'

Rhoddwyd statws gwrthwynebydd cydwybodol iddo gan ddweud y byddai'n rhydd o 'combat service' ond y byddai yn rhaid iddo wneud 'non-combat service', a gwaith o 'bwysigrwydd cenedlaethol'. Nid oedd ei waith fel athro yn ateb y gofyniad hwnnw! Roedd yn rhaid iddo ganfod gwaith oedd o leiaf 50 milltir o'i gartref. Bu am fisoedd yn ceisio cael gwaith na fyddai'n golygu ei fod yn rhyddhau gŵr arall i fynd i'r Fyddin.

Rai wythnosau yn unig cyn iddo wynebu carchar, daeth o hyd i waith fel gwas fferm yn Wrecsam. Yno y bu tan ddiwedd y Rhyfel. Ond daeth un fendith fawr iddo tra 'roedd yno. Cyfarfu fy nain yn y Capel Wesla, a phriododd y ddau yng Ngorffennaf 1919. Cafodd ei swydd fel athro yn Nhalysarn yn ôl hefyd, diolch i bwysau o du'r staff.

Roedd dipyn go lew o ragfarn yn erbyn 'conshis'. Nid yw fy nhaid yn sôn am yr ochr yma o gwbl, ond mae gennym dystiolaeth un o'i ddisgyblion, neb llai na Gwilym R. Jones. Meddai ef yn ei hunangofiant, 'Rhodd Enbyd':

'Nid oedd arno [David Thomas] ofn arddel ei syniadau pasiffistaidd gerbron pawb, a chostiodd hynny'n ddrud iddo. Gallem ni'r plant synhwyro hynny rywsut. Clywem rai hŷn na ni'n achwyn mai 'Hen Gonsi' oedd Dafydd Thomas, ac ni wyddem yn iawn pa beth a olygai hynny. Pan aem i'r Cwt Du, cynullfan doethion y pentref, yn y stesion, clywem weithiau ddadlau gwyllt ar ei gorn, a chasglem ei fod yn ŵr 'ofnus' a 'di-asgwrn cefn'. A dechreuasom amau mawredd ein hathro!

Ond ni bu undyn yn cerdded strydoedd Talysarn â chanddo fwy o lewder moesol yn ei galon'.

Ydi, mae pobl sy'n gwneud safiad yn gwneud argraff ar blant.

Angharad Tomos

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig