Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Awyrennau di-beilot Aberporth

Y protestwyr tu allan i ganolfan y drones

Cynhaliwyd Gwasanaeth o Edifeirwch dan ofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor ger faes awyr yr awyrennau di-beilot ym Mharc Aberporth ar fore Sadwrn, 26 Mehefin. Dewiswyd y diwrnod oherwydd dyma oedd Dydd Dathlu'r Lluoedd Arfog pan y canolbwyntiwyd y dathlu Prydeinig ar Gaerdydd. Cafodd ein protest ei chefnogi gan aelodau o CND Cymru, Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bro Emlyn a changen leol Amnest. Offrymwyd y gweddïau gan Eirian James a'r Dr. Robin Gwyndaf, Is-lywydd y Gymdeithas. Dywedodd ein Llywydd Guto Prys ap Gwynfor mai dim ond dros Geredigion y mae hawl gan yr awyrennau di-beilot yma, a elwir hefyd yn "drôns" (drones), i hedfan yn Ewrop gyfan. Eglurodd fod cost datblygu a chynnal y drôns yn £899 miliwn a bod y Llywodraeth yn Llundain wedi gwneud cytundebau gyda chwmnïau preifat, sef QinetiQ a hefyd UTacS, sy'n gonsortiwm o Thales UK (cwmni o Ffrainc) ac Elbit Systems o Israel. Mae'r drôns newydd ddechrau cael eu profi drwy hedfan dros Geredigion o Aberporth i faes hyfforddi'r fyddin ar Fynydd Epynt. Ystyrir Aberporth fel "canolfan ardderchowgrwydd" datblygu'r drôns.

Defnyddiwyd drôns Americanaidd o'r enw "Reaper" gan Lu Awyr Prydain yn Afghanistan o 2007 ymlaen ac maent yn gallu cario dau fom a phedwar taflegryn "Hellfire". Bellach mae Prydain yn datblygu a phrofi ei drôn ei hun, sef "Watchkeeper", dros diroedd Ceredigion er mwyn ei ddefnyddio yn hwyrach eleni yn Afghanistan. Mae yna beryglon i drigolion yr ardal gan mai arbrofi'r "Watchkeeper" sy'n digwydd dros ardal boblog. Mae angen ystod o systemau cyfathrebu i rheoli a gweithredu'r drôns ac fe all nam trydanol neu golli'r signal fod yn ddigon i greu damwain. Mae yna beryglon pellach gan bod hi'n bosib i unigolion gyda meddalwedd y gellir ei brynu hacio i mewn i system reoli'r drôns. Mae hyn yn digwydd yn barod ar faes y gad yn Afghanistan.

Mae'r Americanwyr yn defnyddio'r drôns i dargedu arweinwyr y gelyn er mwyn eu dienyddio, ac mae hyn yn anghyfreithlon heb sôn am fod yn anfoesol i ladd unigolyn heb achos llys i amddiffyn eu hunain. Defnydd arall i'r drôns yw i ysbïo ar bobl a chasglu gwybodaeth, yn Arizona er enghraifft maent yn edrych am fewnfudwyr anghyfreithlon sy'n croesi'r ffin o Mecsico. Cafwyd eu defnyddio hefyd gan fyddin Israel yn ei cyrch yn erbyn Gaza llynedd a gan y CIA ym Mhacistan, Somalia a'r Yemen. Y gwir yw fod y defnydd o'r awyrennau di-beilot yma a reolir yn Nevada yr Unol Daleithiau, filoedd o filltiroedd i ffwrdd o faes y gad yn Afghanistan, yn cynyddu'n ddyddiol. Ers 2008 mae Prydain wedi eu defnyddio 84 o weithiau ac mae yna amcangyfrif fod tua 1,300 o bobl wedi eu lladd ganddynt ym Mhacistan yn unig gan yr Unol Daleithiau. Mae'r amser wedi dod i godi ymwybyddiaeth pobl o beryglon ac anfoesoldeb yr arf ddibeilot ddienaid yma.


Gallwch ddarllen anerchiad Guto Prys ap Gwynfor yn Aberporth yma.


Mae cangen Cymdeithas y Cymod yn Lloegr wedi bod yn ymchwilio i'r drôns ac yn mynd i gynnal cynhadledd undydd ar dydd Sadwrn, 18 Medi 2010 yn Llundain dan y teitl "Drone Wars". Cost y gynhadledd fydd £10 yn unig, sy'n cynnwys cinio. Bydd yna siaradwyr megis Yr Athro Dave Webb, Is Gadeirydd CND a hefyd weithdai ar ymgyrchu yn lleol yn erbyn y drôns. Am ragor o fanylion ewch i www.for.org.uk/act/campaign.


O Penyberth i Barc Aberporth: Croeso i Gymru Ryfelgar oedd teitl Darlith Lewis Valentine 2010, a draddoddwyd gan Angharad Mair. Gallwch ddarllen y ddarlith ar www.clickonwales.org/2010/07/from-penyberth-to-parc-aberporth-welcome-to-warmongering-wales/.