Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

"Ond nid oedd yno ddŵr i'w yfed" (Exodus 17:1)

Crynodeb o anerchiad gan y Dr Hefin Jones yng ngwasanaeth Cymdeithas y Cymod, Eisteddfod Genedlaethol 2005

Yn ei anerchiad i Gynhadledd UNESCO, yn Delft, Yr Iseldiroedd yn 2003, soniodd Koichiro Matsuura, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr asiantaeth, bod yr argyfwng dŵr a wynebwn heddiw nid yn unig yn ganolog i'n goroesiad fel rhywogaeth ond hefyd i oroesiad y blaned. Yn wir, datgan adroddiad diweddar o'r Cenhedloedd Unedig nad rhyfel, na newyn nac afiechyd, nid terfysgaeth na brawychiaeth nac hyd yn oed anhrefn sifil bydd prif fwganod yr unfed ganrif ar hugain ond yn hytrach cyflenwadau digonol o ddŵr ffres.

Dŵr yw'r adnodd mwyaf cyffredin ar y blaned ond eto dim ond rhyw 2.5 y cant sydd yn ffres ac ar gael i'w yfed. Dŵr heli yw'r gweddill. O'r 2.5 y cant sydd ar gael i'w yfed mae rhyw ddwy ran o dair ynghlwm mewn mynyddoedd a llifiannau iâ, ac yn y gorchudd eira. Mae yna brinder dŵr ffres dybryd ar y blaned. Mae'r pwysau ar y cyflenwad dŵr ffres yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Tyfiant ym mhoblogaeth y byd yw'r prif yrrwr gwasgu - bu i boblogaeth y byd gyrraedd dros chwe biliwn ychydig cyn y flwyddyn 2000 - bu i'r cynnydd hwnnw ddyblu'r cyfaint o ddŵr a oedd ei angen arnom o gymharu â nôl yn 1950. Y darogan yw bod poblogaeth y byd yn mynd i gyrraedd tua 9.3 biliwn erbyn 2050. O ble y daw'r dŵr i liniaru syched pawb?

Wrth reswm, ni all dŵr ymddwyn yn uniongyrchol fel arf ond mae yna gysylltiad a rhyngweithiad cymhleth iawn yn y berthynas rhwng cyflenwadau dŵr a heddwch ymysg cenhedloedd. Yn y 1990au cyhoeddwyd dwy ddogfen hollbwysig gan P H Gleick ar y berthynas rhwng dŵr ac ymrafael rhyngwladol; y gyntaf yn 1994 yn canolbwyntio ar y Dwyrain Canol (Water, war and peace in the Middle East; Environment Cyfrol 36) a'r ail yn 1998 ar agweddau yn ymwneud â holl genhedloedd y byd (Water and Conflict, pennod yn y llyfr The World's Water a gyhoeddwyd gan Island Press, Washington U.D.A.). Yn y ddwy ddogfen rhestrwyd nifer o ffyrdd y gall dŵr fod yn arf dinistriol ac yn fodd i fygwth heddwch rhyngwladol.

Medr dadleuon ynglŷn â pherchnogaeth cyflenwadau dŵr ffres arwain i bob math o ffrwgwd - pan fydd afon yn rhedeg trwy nifer o wledydd, pwy sydd berchen y dŵr? Pwy sydd â'r hawl i gronni'r dŵr ar gyfer lliniaru syched neu ddyfrhau cnydau? Gall gwenwyno cyflenwadau dŵr, neu wahardd dŵr rhag llifo, fod yn arf milwrol mewn rhyfel. Weithiau gellir defnyddio dŵr fel arf gwleidyddol i ennill tir ac adnoddau, ac weithiau hyd yn oed fel offerynnau atal datblygiad economaidd a chymdeithasol. Nid yw chwaith yn amhosibl meddwl am ffyrdd y gellir defnyddio dŵr mewn brawychiaeth a therfysgaeth. Yn olaf, mae cyflenwadau dŵr ffres yn dargedau milwrol a gall rhyfel gael ei hennill neu'i cholli gan ymosodiadau o'r fath. Heb unrhyw amheuaeth mae dŵr yn arf hyblyg a phwerus, yn arf a all ddinistrio neu sicrhau llwyddiant cenedl.

Sylweddolwn bellach gwir ystyr goblygiadau newid hinsawdd, wrbaneiddio, cynnydd poblogaeth a llu o agweddau eraill ar ein cyflenwadau dŵr cyfredol. Mae'r mynegai tlodi dŵr (y water poverty index) yn mesur adnoddau dŵr, faint o bobl gall eu defnyddio, eu defnydd a'u heffaith ar yr amgylchedd. Gwledydd sy'n datblygu sydd â'r mynegai isaf; gwledydd mwyaf tlawd y byd fydd yn teimlo effaith unrhyw newidiadau fwyaf. Er y prinder dŵr sy'n bodoli ar gyfandir yr Affrig, nid oes yna unman drwy'r byd lle mae dŵr yn fwy canolog i wleidyddiaeth, bodolaeth a goresgyniad llywodraethau, a dynoliaeth o ran hynny, na'r Dwyrain Canol. Eisoes mae prinder dŵr yn gnewyllyn ymdaro; cronfeydd a chyflenwadau dŵr ffres yn adnodd pwerus wrth benderfynu pwysigrwydd a grym gwleidyddol gwahanol genhedloedd. Mae'r gwledydd sy'n ymestyn o Iran i Foroco yn cynnwys rhai o'r cenhedloedd lle mae dŵr brinnaf ac mae'r prinder hwnnw yn effeithio'n gynyddol ar eu datblygiad economaidd a chymdeithasol. Mewn sefyllfa o'r fath mae edrych ar ôl buddiannau eich gwlad eich hunan a hidio llai am drigolion a safbwyntiau gwledydd eraill yn fwyfwy amlwg gyda chanlyniadau a all arwain i ddrwgdeimlad rhwng llywodraethau a phobl, ac yn y pen draw hyd yn oed rhyfel. Mae'r hawl i ddŵr glân, ffres a diogel yn un o egwyddorion sylfaenol datblygiad cynaliadwy - yn sicrhau anghenion nid yn unig heddiw ond yfory a thradwy. Fe'i cymerwn mor ganiataol - trown y tap ymlaen a'i adael i redeg yn ddiddiwedd heb feddwl am y canlyniadau. Nid gor-ddweud yw y gall dŵr, ac yn sicr cyflenwadau digonol ohono, fod yr arf mwyaf peryglus sydd yn ein heiddo yn yr unfed ganrif ar hugain.