Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Digwyddiadur

21 Mai - 30 Awst 2010, Oriel Tate, Lerpwl: Picasso: Peace and Freedom. Arddangosfa am gysylltiad Picasso â gwleidyddiaeth a'r mudiad heddwch.

Gwener, 30 Gorffennaf, 7.30yh, Canolfan yr Amgylchedd, Pier Street, Abertawe: Sgwrs a sioe sleidiau gan Ryan Olander a Bridget Chappell ar eu gwaith gyda'r International Solidarity Movement ym Mhalestina. Am ragor o wybodaeth ewch i http://palsolidarity.org/2010/02/11257 neu www.swanseapalestine.org.

31 Gorffennaf - 7 Awst, Glyn Ebwy: Eisteddfod Cenedlaethol. Bydd stondin gan y Gymdeithas eleni fel arfer yn y Babell Heddwch (stondin 705/706) ar faes y brifwyl. Cofiwch alw am sgwrs a lluniaeth ysgafn. Thema'r stondin fydd deiseb ac awgrymiadau am doriadau yn y gyllideb amddiffyn yn hytrach na gwasanaethau hanfodol.

31 Gorffennaf - 29 Awst, Yr Alban: Taith heddwch ryngwladol dros ddyfodol di-niwclear, yn dilyn y llwybrau lle cludir yr arfbennau niwclear drwy'r Alban. Gwybodaeth: scotlandpeacewalk@yahoo.co.uk; 07806 229 207.

Sul, 1 Awst, Greenham Common Commemorative Site, Newbury, Lloegr: Cofio Helen. Bws o Gastellnewydd Emlyn. Cysylltwch â Cen Llwyd ar 01545 590 295 neu cen.llwyd[at]btinternet.com.

2-12 Awst, 10-5.30, Friends House, 173 Euston Road, Llundain: Arddangosfa After the Bomb Dropped: How Hiroshima and Nagasaki Suffered. Manylion: 020 7700 2391.

Mawrth, 3 Awst, 7.30yh, Canolfan y Morlan, Aberystwyth: Drama The Remnants of Once Fine Girls gan Louche Theatre. Manylion: www.louchetheatre.com.

Gwener, 6 Awst, 10yb, pabell Cytûn, Maes yr Eisteddfod Genedlaethol: Gwasanaeth Cymdeithas y Cymod i gofio gollwng y bom atomig ar Hiroshima. Bydd y gwasanaeth dan ofal ein Llywydd, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Croeso i bawb.

Gwener, 6 Awst, hanner dydd, Gardd Heddwch, Llandrindod: Seremoni i gofio am Hiroshima gyda phlannu coeden. Trefnir gan CND Llandrindod. Cysylltwch â Vi Shenton ar 01597 829 303.

Gwener, 6 Awst, 8yh, The Groves, Caer: Seremoni i gofio am Hiroshima gyda darlleniadau, myfyrdod a gollwng blodau ar yr afon. Manylion: 01244 679 051; dai.owen[at]virgin.net.

Gwener, 6 Awst, 8.30yh, y bont haearn wen, Trefdraeth: Seremoni i gofio am Hiroshima gyda chychod a chanhwyllau ar yr afon. Manylion oddi wrth Ros ar 01239 821 129 neu Robbie ar 01239 615 921; r_manson[at]sky.com.

Sadwrn, 7 Awst, hanner dydd, Pabell Heddwch, Eisteddfod Genedlaethol, Blaenau Gwent: Cofio Hiroshima a Nagasaki - Scrapiwch yr holl arfau niwclear Nawr - gan gychwyn yma! Gorymdaith o amgylch y maes gyda baneri, a ddilynir gan anerchiad gan Jill Evans yn y Babell Heddwch. Manylion pellach oddi wrth CND Cymru: heddwch@cndcymru.org.

Iau, 12 Awst, 7-9yh, Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, Park Place (gyferbyn â Undeb y Myfyrwyr): Lansiad ymgyrch South Wales to Gaza Aid Convoy - Break the Siege. Siaradwyr yn cynnwys dau a oroesodd y lladdfa ddiweddar ar y Mavi Mamara: Kevin Ovenden, trefnydd confoi Viva Palestina ac Ebrahim Musaji, ymgyrchydd o Gaza Convoy.

Sadwrn, 14 Awst, Coal Exchange, Caerdydd: Gig i godi arian at CND Cymru. Manylion: www.cndcymru.org a www.wildwestwales.com.

Sadwrn, 4 Medi, 2.30yh, Tŷ Cwrdd y Crynwyr, Temple Street, Llandrindod: Cyfarfod Blynyddol CND Llandrindod, siaradwraig: Angie Zelter (Trident Ploughshares). Croeso i bawb. Cyswllt: 01597 829 303; vishenton[at]hotmail.co.uk.

Sadwrn, 18 Medi, 10-4, Llundain: Drone Wars. Cynhadledd a drefnir gan Gymdeithas y Cymod yn Lloegr. Manylion: http://www.for.org.uk/act/campaign/.

Mawrth, 21 Medi, 7yh, Bangor: Cyfarfod ar Ddydd Rhyngwladol Heddwch a drefnir gan Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn ar y cyd â'r Soroptimists (www.soroptimist-gbi.org). Cyswllt: phil_steele[at]btinternet.com.

Gwener, 24 Medi, 6.30yh, Ystafell Ddarlithio 4, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor: Darlith gyhoeddus gan yr Arglwydd Hannay o Chiswick, Cadeirydd UNA UK ar y pwnc Is there an alternative to New World Disorder?. Dan nawdd Cangen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig gyda chydweithrediad Prifysgol Bangor. Croeso cynnes i bawb.

Mercher, 29 Medi, 9.30yb-3.30yh, Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth: Cynhadledd Flynyddol Urdd Graddedigion Athroniaeth Prifysgol Cymru. Thema: Rhyfel Cyfiawn? Am ragor o wyboaeth neu i gofrestru cysyllter â Meilyr Ceredig: meilyr.ceredig{AT}hotmail.co.uk.

Sadwrn, 16 Hydref, Six Feet Under, Casnewydd: Gig i godi arian at No Borders South Wales. Manylion: http://noborderswales.org.uk/2010/07/22/benefit-gig-on-16th-october.

Mawrth, 19 Hydref, Bangor: Ffilm a sgwrs Outside the Law: Stories from Guantanamo. Manylion: phil_steele[at]btinternet.com.

Sadwrn, 6 Tachwedd, 7yh, Neuadd Bentref Henryd, Conwy: Cân o gariad er heddwch a chymod. Gyda Dafydd Iwan, Trebor Edwards, Côr Bro Gwerfil a phlant Ysgol Llangelynnin. Tâl mynediad £6; elw at Gymdeithas y Cymod ac er gwella milwyr gafodd eu niweidio. Mae tocynnau ar gael oddi wrth Gymdeithas y Cymod: 01286-830913; cymdeithasycymod@btinternet.com.

13-20 Tachwedd, Baarlo, Limburg, Iseldiroedd: Cyfarfod o Gyngor Cymdeithas y Cymod Ryngwladol.

Gwener-Sadwrn, 26-27 Tachwedd, Ffald y Brenin, Cwm Gwaun: Gwylnos Cymdeithas y Cymod. Bydd yr Wylnos yn dechrau am 6yh gyda chinio ac yna ceir Myfyrdod Heddwch dan ofal y Dr. Robin Gwyndaf, cyfarfod o Gyngor y Gymdeithas ac amser i gymdeithasu. Fore Sadwrn am 10yb bydd Mererid Hopwood yn rhoi darlith ar Waldo Williams yr Heddychwr a'r Crynwr ac yna yn ein tywys ar daith yn dilyn ôl troed Waldo yn yr ardal. Manylion: cymdeithasycymod@btinternet.com.

Sadwrn, 4 Rhagfyr, 9.30yb-5yh, Llundain: Cynhadledd Adelante! Latin America 2010 - making a better world possible. Manylion: www.latinamericaconference.org.uk.

28 Ebrill - 1 Mai 2011, High Wickham: Cynhadledd y canghennau Ewropeaidd o Gymdeithas y Cymod. Trefnir gan Gymdeithas y Cymod yn Lloegr.