Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

George M. Ll. Davies (1880-1949)

Wrth ddwyn i gof Pamffledi Heddychwyr Cymru a argraffwyd gan Wasg Gee yn ystod yr ail ryfel byd, mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn annog y genhedlaeth bresennol, yn hen ac ieuanc, i'w darllen. Maent ar gael yn ein Llyfrgell Genedlaethol. Arweinydd yr heddychwyr hyn oedd George Maitland Lloyd Davies, gŵr yn ôl Gwynfor Evans, awdur y llyfr Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru (Cymdeithas y Cymod, 1991), a "safai ar ei ben ei hun", ac a ysgrifennodd dri o'r pamffledi ei hun, sef rhif 2 "Ffordd y Cymod", rhif 9 "Gandhi a Chenedlaetholdeb India" o'r gyfres gyntaf o ddeuddeg, a rhif 1 "Triniaeth Troseddwyr" o'r drydedd gyfres. Galwyd ef gan ei gofiannydd, E.H. Griffiths, yn "Heddychwr Mawr Cymru" ac yn "Seraff yr Efengyl Seml", dau ddisgrifiad cwbl haeddiannol.

Person dwys a theimladwy oedd George Davies erioed, ond yr archoll ddofn o golli ei gyfaill enaid, Herbert Roberts, ym 1905, wedi i driniaeth lawfeddygol fethu, a'i sbardunodd i wasanaethu cyd-ddyn. Yng ngeiriau ei ddyddlyfr ar y pryd: "I live more for others and much happiness has come into my soul". Un o'i nodweddion pennaf oedd ei allu i gymysgu gyda phob math o bobl. Roedd yr un mor gartrefol gyda'r dysgedigion a'r 'byddigions' ag yr oedd ymysg 'gwehilion' cymdeithas, yr anffodusion y gweithiodd mor galed a diarbed yn eu plith am flynyddoedd, heb gyfri'r gost iddo ef ei hun o ran ei iechyd na'i amgylchiadau personol. Mae englyn D.J. Davies, Capel Als yn crynhoi hynny'n berffaith:

Rhoes ei galon i Shoni, - Wil a Dai
o'i weld ef fu'n llonni;
Yn nydd craith clywodd eu cri,
Ar eu salwch rhoes eli.

Cafodd lawer o flynyddoedd o iselder ysbryd ar ddechrau ei bererindod ysbrydol, rhywbeth a nodweddai pobl angerddol o bryd i'w gilydd, ond ar adeg ei dröedigaeth, dywedodd:

"Yn y tywyllwch eithaf ... daeth goleuni Crist a darganfyddiad o'i eiriau mai amod ei ddisgyblaeth oedd ufudd-dod: 'Os cerwch fi cerwch fy ngorchmynion'; nid teimlad, na chyffes, na phroffes na gwaith ... gwybod a gweithredu oedd trefn addysg y byd, gweithredu a gwybod oedd trefn yr Efengyl ... ac o beth i beth, deuthum o anobaith a thywyllwch i oleuni gyda hyn - megis angor yr enaid - mai cariad personol Crist oedd yn cadw ac yn cymodi, ac mai cyfeillgarwch personol, ac nid clod neu anghlod y byd oedd yn cyfrif yn y pen draw."

Dyna'r weledigaeth a fu'n llywodraethu ei fywyd am bymtheng mlynedd ar hugain wedyn. Cafodd gyfaill o'r un anian yn y Parchedig Richard Roberts yn swyddfa'r Fellowship of Reconciliation yn Llundain, yntau wedi ei orfodi i roi'r gorau i fugeiliaeth ei eglwys am nad oedd ei bregethu heddychol yn gymeradwy gan ei braidd. Profodd y ddau, ynghyd â holl heddychwyr y cyfnod, lawer o erledigaeth, ac fe garcharwyd rhai ohonynt, gan gynnwys George Davies, am wrthod gwasanaeth milwrol gorfodol ym 1916. Bu'n gwneud gwaith amgen fel gwas fferm a bugail yn Llŷn am gyfnod, a mynych fu'r cyfarfodydd gweddi a'r seiadau, gyda George yn un o'r siaradwyr mwyaf huawdl. Ceid disgrifiad ohono yn siarad dan deimladau dwys ac ar ambell foment angerddol daliai'r gynulleidfa ei hanadl.

Tystiolaeth gwraig o Dywyn a fu yng nghwmni George lawer gwaith oedd: "Fo oedd yr unig berson i mi ei gyfarfod erioed oedd yn llythrennol ufudd i orchmynion ei Feistr", a sylw ei gofiannydd oedd: "Os oedd llawer ar y pryd yn dioddef wrth ymladd, ymladd trwy ddioddef yr oedd George Davies".

Priodol hefyd ar yr adeg hanesyddol a chyffrous sydd ohoni yng Ngogledd Iwerddon y dyddiau hyn yw nodi ymdrechion glew George Davies yn 1920 i ddod â chymod i'r dalaith gythryblus wrth iddo gyfarfod â phobl amlwg o'r ddwy ochr yn Iwerddon ei hun a hefyd yn yr Alban, a cheisio eu hargyhoeddi mai ffordd Tywysog Tangnefedd oedd yr unig ffordd i'w dilyn. Aeth hefyd i rif deg Downing Street ar sawl pererindod heddwch a llwyddodd i gael Lloyd George, y Prif Weinidog, i gyfarfod â de Valera am y tro cyntaf yn Iwerddon. Bu George Davies yn allweddol i 'Mesur 1921' a fu ar y pryd, er ei ddiffygion, yn gam pwysig ymlaen ym mherthynas Prydain ac Iwerddon.

Dywedwyd amdano mai "ef oedd yr olwyn ddirgel oedd yn troi'r olwynion mawr oedd yn yr amlwg". Ni allaf lai na meddwl pa mor wahanol y buasai hanes Gogledd Iwerddon dros y blynyddoedd pe bai'r gwleidyddion wedi gwrando a gweithredu yn ôl doethineb George M. LL. Davies. Coffa da a diolch i Dduw amdano.

Note: An English translation of the biography of George M.LL.Davies mentioned above is available to download or to purchase a printed copy from our store at lulu.com.

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig