Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Ein Dyled i Gwynfor

Fel y nododd llawer un a roes deyrnged i Gwynfor Evans, roedd ei heddychiaeth yn gwbl ganolog yn ei fywyd. Gydol ei yrfa wleidyddol fe safodd yn gadarn a diflino dros y ffordd ddi-drais.

Fe deimlai'n falch iawn o'r cyswllt teuluol a gafodd â Richard Roberts, Ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas y Cymod a bu yno yng nghwmni George M. Ll. Davies pan wasgarwyd ei lwch. Ac fe wisgodd Gwynfor fentyll y ddau heddychwr mawr hynny mewn ffordd loyw iawn.

Yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe gyfrannodd yn helaeth at y dystiolaeth heddwch gan weithredu fel ysgrifennydd Heddychwyr Cymru.

Bu Cymdeithas y Cymod yn ddyledus i Gwynfor am ei gefnogaeth gyson a'i braint oedd cael cyhoeddi ei draethiad ar George M. Ll. Davies, Pererin Heddwch a'r llyfryn gwerthfawr Heddychiaeth yng Nghymru. Llawenydd i ni oedd iddo gael ei wahodd i draddodi darlith Coffa Alex Wood a gwnaeth hynny yn 1983 gan ddewis yn destun Cenedlaetholdeb Di-drais.

Bydd haneswyr y dyfodol yn sicr o gydnabod arbenigrwydd y gwleidydd hwn o heddychwr. Bu'n wrol yn ei ymgais i lefeinio byd dyrys gwleidyddiaeth â gwerthoedd y Deyrnas. Nid oedd ganddo amheuaeth beth oedd yn hawlio blaenoriaeth. "Er mwyn dyn y mae popeth yn bod; pob sefydliad a phob cymdeithas."; Ac eto, "Personoliaeth dyn yn unig sydd o werth eithaf ar y ddaear nid gwladwriaeth na chenedl na gwreiddiad."

Pa well ffordd o barchu coffadwriaeth Gwynfor na thrwy lynu wrth y gwerthoedd a arddelodd a'u hyrwyddo o fewn ein dyddiau ni.

Pytiau o anerchiadau angladd Gwynfor

Meddai Jill Evans ASE:

Roedd Gwynfor Evans yn ysbrydoliaeth i mi. Materion heddwch a chyfiawnder oedd yn ei yrru - ac yn cael eu hadlewyrchu ym mhob peth a wnâi.

Fe wnaeth Gwynfor wahaniaeth enfawr. O'r tridegau a'r pedwardegau pan oedd yn ysgrifennydd Heddychwyr Cymru ac yn chwarae rôl flaenllaw yn y protestiadau yn erbyn y bwriad o symud chwe deg o deuluoedd o Fynydd Epynt er mwyn troi'r tir yn faes tanio, pan wrthwynebai'r modd y meddiannodd y fyddin ddeg mil o aceri o dir ger Abergeirw, hyd at y llynedd pan gododd ei lais yn erbyn yr ymosodiad anghyfreithlon ar Irac.

Fe chwaraeodd ran bwysig iawn yn CND Cymru - nid yn unig pan oedd yn ffasiynol gwneud hynny ond hefyd pan roedd diarfogi yn isel ar yr agenda ac CND yn cael bron dim sylw. Siaradai Gwynfor gydag angerdd dros heddwch a diarfogi a'u pwysigrwydd i bob rhan o'n bywydau.

Siaradodd yn gryf yn y Senedd yn erbyn rhyfel Fietnam ac fe gynigiodd ei hun fel 'tarian ddynol' yn Hanoi. Fe wrthodwyd mynediad i'r grŵp i Fietnam ond roedd y weithred yn nodweddiadol o ŵr na allai sefyll a gwylio'r fath laddfa.

Mae Gwynfor wedi gosod safonau uchel i ni gyd. Ac mae gyda ni i gyd ddyled enfawr iddo am ei waith diflino dros heddwch a chyfiawnder. Diolch Gwynfor am garu Cymru ond hefyd am garu'r byd.

Meddai yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC:

Ganwyd yr enaid mawr hwn y ffarweliwn a'i weddillion heddiw yn y ganrif fwyaf treisgar yn hanes y byd. Pa ryfedd felly mai heddwch rhyngwladol oedd pwnc cyhoeddus cyntaf Gwynfor Evans. Pwnc ei gyfweliad olaf oedd ymosodiad deifiol ar fenter anghyfreithlon Llywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn erbyn Irac. Y cyplysiad hwn rhwng dyfodol Cymru fel cenedl a heddwch byd-eang oedd canolbwynt ei yrfa gyhoeddus a'i argyhoeddiad personol.

Am fod y byd wedi ei drefnu mewn cymuned o genhedloedd yr oedd am i Gymru fod yn un ohonynt. Gwelai ddyfodiad y cenhedloedd llai ar lwyfan ryngwladol yn her i'r hen wladwriaethau ymerodrol.

Materion cydwladol oedd y paragraffau tanbaid yn ei ddegau o areithiau llywyddol i gynadleddau blynyddol ei blaid. Dyna a symbylodd ei daith i Cambodia mewn ymgais i gyrraedd Fietnam.

Ymhell cyn dyfodiad yr Undeb Ewropeaidd, roedd ymlyniad Gwynfor wrth genhedloedd llai'r tir mawr yn nodedig. Coleddodd ryddid y Catalaniaid a'r Basgiaid yn nyddiau du ffasgaeth Franco. Dadleuodd dros hawliau'r Cwrdiaid pan nad oedd gan wleidyddion amlwg y DU nag UDA unrhyw ddiddordeb ynddynt. Ymgeleddodd y Llydawiaid drwy'r degawdau pan wadwyd eu hawliau.

Ni allai neb wadu ei gyfraniad unigryw i sefydlu'r Cynulliad. Gwyddai Gwynfor erioed am werth moesol y broses ddemocrataidd a'r urddas a ddyry ar fywyd cenedl ac unigolyn.

Gosododd urddas digymar ar ein bywyd cyhoeddus yn genedlaethol a rhyngwladol. Yn nhywyllwch yr ugeinfed ganrif ryfelgar a threisgar bu ei fywyd yn olau.

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig