Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Hanes Gweithredu Di-drais yng Nghymru

Dylanwad y ffydd Gristnogol dros y canrifoedd fu yn gyfrifol am y traddodiad cryf o heddychiaeth yng Nghymru. Datblygodd y syniad o weithredu di-drais oddi fewn y mudiad cenedlaethol hefyd gan athroniaeth ac esiampl ymarferol Ghandi. Un o'r gweithredoedd di-drais cyntaf oedd llosgi yr ysgol fomio ym Mhenyberth yn 1936 gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams. Nid oedd dinistrio eiddo yn cael ei ystyried yn drais. Diffiniwyd trais fel trais yn erbyn person. Un agwedd bwysig o weithredu di-drais yw'r parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb llawn am y weithred, ac i dderbyn y gosb. Fe wnaeth y tri cenedlaetholwr fynd yn syth i'r orsaf heddlu leol i gyfaddef eu trosedd. Cawsant gyfle wedyn i gyfiawnhau eu gweithred yn gyhoeddus mewn llysoedd barn cyn cael eu carcharu.

Yn 1951 medrodd aelodau o Blaid Cymru atal y Swyddfa Ryfel rhag sefydlu gwersyll hyfforddi milwrol ar 5000 erw o dir Trawsfynydd drwy eistedd ar y ffordd i atal trafnidiaeth milwrol rhag cyrraedd y safle. Mae'n drist sylwi fel y penderfynodd aelodau Plaid Cymru yn eu cynhadledd yn Llandudno eleni i beidio â gwrthwynebu academi filwrol Sain Tathan. Fel y dywedodd yr Arglwydd Aston "mae cael grym yn llygru". Mae gweld gwleidyddion yn troi cefn ar draddodiad ac egwyddorion eu plaid er mwyn ennill grym yn tristáu dyn.

Yn 1960 methwyd ag atal dinas Lerpwl rhag boddi Capel Celyn drwy ddulliau di-drais. Er hynny bu'r methiant hwn yn sail i dyfiant teimladau cenedlaetholgar yng Nghymru a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu ein Cynulliad Cenedlaethol. Gellir dadlau mai yn y tymor hir y gwelir ffrwyth gweithredu di-drais.

Rhaid cyfaddef fod rhai pobl wedi defnyddio dulliau treisiol yn ystod yr ymgyrch i achub Capel Celyn. Pe byddent hwy wedi llwyddo mae'n eithaf tebygol y gallai cenedlaetholwyr yng Nghymru fod wedi creu sefyllfa o drais tebyg i'r hyn welwyd yng Ngogledd Iwerddon. Yn ffodus iawn i Gymru roedd arweinwyr Plaid Cymru ac yn arbennig yr heddychwr o genedlaetholwr Gwynfor Evans wedi sefyll yn gadarn yn erbyn dulliau treisiol gan orchfygu yr elfennau hynny oedd yn arddel trais. Cafodd Byddin Rhyddid Cymru a Mudiad Amddiffyn Cymru eu hynysu, er iddynt aros yn y cysgodion gan ymddangos unwaith eto yn ystod protestiadau yr Arwisgo yn 1969.

Digwyddodd y rali genedlaethol gyntaf gan CND Cymru yn 1961, a cofiaf i ni eistedd ar y ffordd tu allan Castell Caerdydd dan arweiniad Pwyllgor y Cant Cymru. Ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 1981 penderfynodd criw o ferched o Gymru fynd i sefydlu Gwersyll Heddwch Greenham Common ger cartref y taflegrau Cruise. Ymunodd merched o wledydd eraill yn y gwersyll ac arhosodd rhai tan ddiwedd y rhyfel oer. Defnyddiodd y gwersyll heddwch ddulliau dramatig i ddangos perygl y taflegrau Cruise i'r cyhoedd. Yn 1986 roedd yna brotest mawr gan heddychwyr yng Nghaerfyrddin i atal adeiladu lloches niwclear yno.

Ambell waith mae un unigolyn yn gallu gwneud gwahaniaeth fel yn achos Mrs Eileen Beasley. Penderfynodd hi yn y 1950au cynnar i ofyn i Gyngor Tref Llanelli am gael ei phapurau treth yn y Gymraeg. Afraid dweud ar y pryd roedd yr holl dogfennau swyddogol yng Nghymru ar gael yn Saesneg yn unig. Gwrthododd y Cyngor Tref i argraffu papurau'r dreth yn y Gymraeg ac fe ddechreuodd y frwydr am nifer o flynyddoedd yn erbyn Mrs. Beasley. Gwrthododd hi dalu'r dreth ac fe gollodd ddodrefn o'r tŷ. Cafodd gefnogaeth gan y gymuned leol ac yn diwedd enillodd ei gweithred ddi-drais.

Soniodd Saunders Lewis am ymdrech Mrs Beasley yn ei araith enwog Tynged yr Iaith. Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel canlyniad i'r araith yn 1963. Bu hi'n bolisi gan Gymdeithas yr Iaith o'r dechrau i weithredu mewn dull di-drais. Rhwygwyd eiddo ac yna cymerodd aelodau'r Gymdeithas gyfrifoldeb dros eu gweithredoedd. Cosbwyd yr aelodau gan yr awdurdodau gyda chyfnodau o garchar a dirwyon. Yn y diwedd cefnogwyd hwy gan y cyhoedd a cafwyd deddf iaith drwy ddulliau di-drais. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dal ati i ddefnyddio dulliau di-drais i gael cyfiawnder llawn i'r iaith Gymraeg.

Mae dulliau di-drais yn gallu llwyddo yn y tymor hir os yw pobl yn ddigon penderfynol ac yn barod i dderbyn cyfrifoldeb a chosb dros eu gweithredoedd. Rhaid fod yn barod i ddioddef dros achos cyfiawn pan y defnyddir dulliau di-drais. Nid yw heddychiaeth yn golygu eistedd yn ôl a gwneud dim ond i fod yn weithredol ddi-drais gan herio anghyfiawnder a thrais ar bob cyfle. Mae angen meddwl am ffyrdd creadigol o weithredu yn ddi-drais i ddod ag unrhyw achos i olwg y cyhoedd ac i geisio cael cefnogaeth.

Arfon Rhys, Hydref 2009