Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Ein Cefndir

"Beth bynnag a ddigwyddo, ni newidir ein perthynas ni. Rydym yn un yng Nghrist, ac ni all fod rhyfel rhyngom ni."

Dyma eiriau Almaenwr wrth Sais ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, a dyma un o'r hadau y tyfodd Cymdeithas y Cymod ohoni. Ym mis Gorffenaf 1914 cynhalwyd cynhadledd eciwmenaidd rhyngwladol yn yr Almaen gan Gristnogion a oedd yn ceisio rhwystro'r rhyfel a oedd yn crynhoi. Yn anffodus dechreuodd y Rhyfel cyn i'r gynhadledd orffen a rhaid oedd i'r cynhadleddwyr fynd adref. Er hyn, cyn gwahanu yng ngorsaf Cwlen, dywedodd Friedrich Sigmund-Schulze, gweinidog Lwtheraidd o'r Almaen, y geiriau uchod wrth ei gyfaill Henry Hodgkin, Crynwr o Loegr.

Gyda'r addewid yma mewn meddwl, daeth Cristnogion at eu gilydd yng Nghaergrawnt dros ddyddiau olaf y flwyddyn, a sefydlwyd Cymdeithas y Cymod. Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth Cristnogol yn bodoli'n barod, yn enwedig ymysg rhai o'r enwadau anghydffurfiol, a daeth Cymdeithas y Cymod â pharhâd i'r dystiolaeth heddwch a welwyd eisioes.

Bu cyfraniad Cymru i'r Gymdeithas yn un gwerthfawr iawn o'r dechrau. Yn wir, Richard Roberts o Flaenau Ffestiniog oedd ei hysgrifennydd cyffredinol llawn-amser cyntaf, a bu George M.Ll. Davies, un o heddychwyr enwocaf Cymru, yn arweinydd blaenllaw. Fel nifer o Gymry eraill, roedd ymroddiad George M.Ll. i heddwch yn ddwfn iawn, a chafodd ei garcharu am gyfnodau sylweddol am wrthwynebu rhyfel a gorfodaeth milwrol.

Trwy gyfnod anodd y Rhyfel Mawr fe ledodd yr argyhoeddiad o nerth Cymod Crist a'i berthnasedd i'n byd ni, ac yn 1919 daeth Cymdeithas y Cymod Rhyngwladol i fod. Bellach mae'n fudiad aml-ffydd gyda dros 40 o ganghenau tra wahanol ar draws y byd. Ym Mhrydain mae'r Gymdeithas wreiddiol wedi rhannu'n ganghennau annibynnol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban; a mae cysylltiadau clos hefyd gyda mudiadau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Gymdeithas yng Nghymru'n parhau i lynu wrth ei sylfeini Cristnogol, ond estynir croeso i rai o argyhoeddiadau gwahannol i rannu'n llawn yn ein gweithgareddau.

Dechreuodd ein Cymdeithas mewn ymateb i ryfel gyda'r argyhoeddiad ein bod yn un yng Nghrist, beth bynnag fo'r rhaniadau a greuwyd gan gyd-ddyn. Nod y Gymdeithas heddiw yw parhau i dystio'n gadarn ac adeiladol i'r Cymod yng Nghrist, gan arddel heddychiaeth a didreisedd fel ffordd o fyw. Law-yn-llaw gyda gwrthwynebu rhyfel, ymrwymwn ein hunain i sefydlu cymuned fyd-eang heddychlon sy'n rhydd o anghyfiawnder a gormes. Uniaethwn gyda pawb dan ormes cyfundrefnau anghyfiawn, beth bynnag fo'u cenedl, hil neu grefydd, a chwiliwn yn barhaus am ffyrdd newydd didrais o drawsnewid sefyllfeydd o'r fath.

Gallwch ddarllen rhagor yn llyfr Gwynfor Evans ar Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru.