Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Taith i Israel

Gwahoddwyd ein Hysgrifennydd, Arfon Rhys, gan Ganolfan Hysbysrwydd Israel yng Nghaerdydd ar daith i Israel. Dyma ei adroddiad:

Cafwyd ymateb chwyrn oddi wrth y gymuned Iddewig i brotest y Gymdeithas yn erbyn y mur yn Israel yn ystod Eisteddfod yr Urdd llynedd. Fel canlyniad cefais wahoddiad gan Ganolfan Hysbysrwydd Israel yng Nghymru i fynd ar daith i Israel i weld y sefyllfa drosof fy hun. Arweiniwyd y daith gan Gyfarwyddwraig y Ganolfan Ms Jean Evans, a hefyd yn y cwmni roedd y Dr Hefin Jones Llywydd Undeb yr Annibynwyr, Pat Lewis aelod o Gyngor yr Eglwys yng Nghymru a John Barnie Golygydd Planet.

Milwyr ar y stryd yn Israel

Ar y stryd yn Israel: milwyr arfog yn olygfa gyffredin.

Fel Cristion ni allwn lai na theimlo gwefr y pererin wrth sefyll ar fore Sul y Blodau ar Fynydd yr Olewydd yn edrych draw tuag at ddinas Caersalem gan weld yr union fynedfa y cerddodd Iesu drwyddi dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Cawsom aros mewn gwesty oedd wrth odre Mynydd Seion, a gallwn weld Dyffryn Gehenna oddi tanaf o ffenest fy ystafell. Roedd gweld Gehenna yn fy atgoffa o wir bwrpas ein taith, ac yn y pellter o'r un ystafell gwelwn y mur hyll yn cau o gwmpas Jerwsalem.

Mae Cymod yn golygu dod â dau elyn at ei gilydd, gan geisio deall os nad cytuno gydag ofnau a gofidiau'r ddau, er mwyn yng ngeiriau Waldo Williams "Cael ffordd drwy'r drain at ochr hen elyn". Mae'r Iddewon a'r Palestiniaid yn hen elynion ac ni welwn gymod rhwng y ddau ar chwarae bach, na drwy feio un yn fwy na'r llall. Nid oes, eto yng ngeiriau Waldo, "Cenedl dda a chenedl ddrwg" yn bodoli.

Tywyswyd ni i Yad Vashem y gofeb i'r chwe miliwn o Iddewon a gafodd ei lladd gan y Natsïaid, sy'n sail i holl ofnau'r genedl ac sy'n cyfiawnhau bodolaeth gwladwriaeth Israel. Daeth Mr Arnold Roth i siarad gyda ni, tad a gollodd ei ferch yn bymtheg oed pan gafodd ei lladd gan hunan-fomiwr yn Jerwsalem. Mae Mr Roth wedi sefydlu elusen i brynu offer meddygol i blant y Palestiniad yn ogystal ag Iddewon er cof am ei ferch. Tywyswyd ni o gwmpas kibbutz Givat Haviva gan Lydia Aisenberg gynt o Gaerffili. Roedd Lydia wedi gadael Cymru ar ôl iddi brofi ymosodiadau gwrth-Iddewig yn ei herbyn. Mae Givat Haviva yn hyrwyddo cydweithio rhwng plant y Palestiniaid a'r Iddewon yn Israel.

Un o'r digwyddiadau mwyaf pleserus i ni oedd ymweld ag ysbyty Iddewig Wolfson lle mae plant tlawd y byd, gan gynnwys Palestiniaid, yn cael triniaeth ar y galon yn rhad ac am ddim drwy brosiect Shevet Achim. Roedd y llawenydd ar wynebau'r plant yn dweud y cyfan, ac yn dangos pwysigrwydd creu cymod rhwng pobl. Mae yna lawer o waith da yn cael ei wneud mewn sefyllfa anodd gan Iddewon blaengar.

Bu cyfle hefyd i ymweld â phentref Arabaidd sydd wedi ei rhannu yn ddau gan y "linell werdd" rhwng Israel a'r Llain Orllewinol. Roedd tlodi'r Palestiniaid yn Israel yn wrthgyferbyniad llwyr i drefi llewyrchus yr Iddewon. Yn y cefndir drwy'r amser roedd y gwahaniaeth amlwg yma rhwng dwy genedl sy'n rhannu'r un diriogaeth. Pentrefi tlawd yr Arabiaid ochr yn ochr â chyfoeth gorllewinol yr Iddewon, gyda'r mur a ffens "diogelwch" hyll yn gwau rhyngddynt ar draws y dirwedd. Dywedodd un darlithydd o Adran Daearyddiaeth y Brifysgol Hebraeg wrthym fod y mur yn cael effaith fel rhwystr economaidd a symbol gwleidyddol yn fwy na fel "mur diogelwch" rhag bomiau.

Yr hyn a ddysgais fwyaf o'r daith yw bod llawer o Iddewon Israel yn drwgdybio pawb yn y byd, gan gynnwys rhai Iddewon gwrthwynebus, o fod yn "wrth-Iddewig", a bod yna fygythiad parhaus i fodolaeth gwladwriaeth Israel. Mae'r seicoleg yma yn golygu fod unrhyw fath o feirniadaeth o bolisïau llywodraeth Israel yn cael ei weld fel bygythiad i'w bodolaeth fel pobl. Wedi ymweld â Yad Vashem, pwy all feio cenedl sydd wedi dioddef gymaint? Ond ar y llaw arall nid yw dwysáu tlodi'r Palestiniaid drwy osod rhwystr economaidd y mur yn mynd i wneud dim ond cryfhau'r teimlad o anghyfiawnder o du'r Arabiaid, a thrwy hynny fod yn fygythiad i Israel yn y tymor hir.