Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Yr Athro J.R. Jones
(1911-1970)

Roedd yr Athro J.R. Jones yn athronydd a benodwyd i gadair Athroniaeth Coleg y Brifysgol Abertawe yn 1952, a bu yno hyd ei farw. Roedd hefyd yn bregethwr, diwinydd, heddychwr a chenedlaetholwr, ac yn wir yn broffwyd i genedl y Cymry.

Dyma ddarn allan o bregeth ganddo a gyhoeddwyd yn y gyfrol Ac Onide yn 1970. Roedd y rhyfel oer yn ei anterth ar y pryd, ond nid oes rhaid gwneud dim mwy na newid y gair "Rwsia" am "Al Qaida" a "comiwnyddiaeth" am "derfysgwyr Islamaidd", ac mae'r hyn sydd ganddo yma yn wir am ein sefyllfa ni heddiw. Sef, y syniad fod un ochr yn "dda" a'r ochr arall yn "ddrwg", sy'n arwain at ryfel. Mae hyd yn oed yn defnyddio'r gair "Crwsâd" fel y defnyddiodd Arlywydd America George Bush y gair cyn dechrau rhyfel Iraq.

Pan weinyddir barn y tu allan i wledydd, sef gan wledydd ar ei gilydd, dyma'r union erchylltra y maent yn mynd yn euog ohono. Canys eglur yw mai pen draw unrhyw weinyddu barn ar wlad gan wlad arall, neu ar un gwareiddiad gan wareiddiad arall, yw rhyfel. A bu'n wir erioed, ond yn gan fil gwiriach erbyn hyn, mai'r diniwed sy'n dioddef fwyaf mewn rhyfel.

'A fynni di', meddai'r gweision, 'i ni fyned a chasglu yr efrau?' Hynny yw, 'a fynni di i ni weinyddu barn?' O'r ddwy ochr, cofiwch - 'ni', y gwareiddiad rhydd, 'Cristnogol', weinyddu barn ar yr anferthwch comiwnyddol; neu, o'r ochr arall, 'ni' gwareiddiad y rhannu a'r gwastatau, weinyddu barn ar addolwyr y ddoler a'r bunt? 'A fynni di i ni fyned a chasglu yr efrau?' 'Na fynnaf ... rhag i chwi, wrth gasglu yr efrau, ddiwreiddio fy ngwenith hefyd'.

'Rwyf am bwysleisio fod mwy o arwyddocâd heddiw i'r rhybudd proffwydol hwn nag erioed yn hanes dynion. Canys yn gwbl agored bellach, fel rhyfel y 'da' yn erbyn y 'drwg' yr edrychir ar y gwrthdaro rhwng y ddau wareiddiad. Daethpwyd i feddwl am y rhyfel a ragwelir yn torri allan rhyngddynt fel rhyfel ideolegol pur - rhyfel a fydd yn ei gyhoeddi ei hun o'r cychwyn, a heb ddim cywilydd, yn rhyw fath o grwsâd dros ddaioni a chyfiawnder. Clywch, er enghraifft, eiriau o 'blatfform' y Blaid Weriniaethol, y mae nid yn unig eithafwyr fel Goldwater, ond hefyd lawer iawn o Americanwyr capelgar a chyfrifol, yn aelodau ohoni:

"America must advance freedom throughout the world as a vital condition of orderly human progress and universal justice. The supreme challenge to this policy is an atheist imperialist communism. Our nation's leadership must be judged by the stand it takes against communism. That stand must be: victory for freedom. There can be no security until this goal is won. We will reconsecrate this nation to human liberty assuring the freedom of our own people and rallying mankind to a new crusade for freedom all around the world..."

Y mae'n wir fod Goldwater wedi ei drechu yn yr etholiad. Ond, a thros bum miliwn o bleidleisiau y tu ôl iddo, ei air olaf wrth ildio'r oruchafiaeth i Johnson oedd: 'Communism remains our number one obstacle to peace'. Y pwynt i graffu arno yw y dywedai arweinwyr Rwsia yr un peth yn union am gyfalafiaeth. Ac wrth gwrs, nid heb reswm. Oni wel y darllenydd hynny, gan gryfed ei bartïaeth, nid yw wedi dechrau deall neges y bregeth hon. Canys y safbwynt proffwydol yw nad oes yn yr honiadau hyn ddim oll ond fod y naill ochr, fel y llall, yn ei gweld ei hunan yn wenith pur a'r efrau i gyd ar yr ochr arall - gweld y gyfundrefn gyfiawn ynddi hi a 'chyfiawnder' honedig yr ochr arall heb fod yn ddim ond lledrith a thwyll. Eithr yn enw'r Gristnogaeth broffwydol, y mae'n rhaid cyhoeddi nad felly y rhannwyd byd Duw. Y mae ganddo Ef ei wenith ym mhob gwlad ac ym mhob gwareiddiad. Gwir, ymhob gwlad ac ymhob gwareiddiad, fe heuwyd efrau yn gymysg a'r gwenith. Eithr Efo ei hun yn unig a fedr eu didoli. Bydd unrhyw gais o eiddo'r naill ochr neu'r llall, yn enw ei chyfiawnder ei hun, i chwynnu efrau'r ochr arall, yn sicr o dynnu'r diniwed - y 'rhai bychain hyn' - i mewn i'r dioddef.

Wrth y sawl sydd, gan hynny, yn ei ystyried ei hun yn ddigon glan a theilwng i farnu - wrth America a Phrydain, hynny yw, yn ogystal ag wrth Rwsia a China - y mae'r Tragwyddol yn dywedyd, ac yn ei lais bellach holl daerineb y ffaith fod tynged bodolaeth y byd yn y fantol:
'Na fynnaf - rhag i chwi, wrth gasglu'r efrau, ddiwreiddio fy ngwenith hefyd'.

Utgorn nef yn dolefain,
Y sêr a glywant ei sain.

Gallwch ddarllen y cyfan o'r bregeth yn Ac Onide gan J R Jones 1970.

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig