Newyddion
Mae'r Llywodraeth yn Llundain wedi gosod gwefan bellach i dderbyn awgrymiadau a syniadau oddi wrth y cyhoedd am doriadau posibl yng ngwariant y Llywodraeth. Mae hwn yn rhoi cyfle i ni fel heddychwyr i alw ar y Llywodraeth i wneud toriadau yn y gyllideb amddiffyn. Felly ewch i'r wefan hon i roi eich awgrymiadau: http://spendingchallenge.hm-treasury.gov.uk.
Dyma rai syniadau i chi:-
- Peidio ag adnewyddu arfau niwclear Trident i arbed £130 biliwn.
- Dileu datblygu yr awyrennau di-beilot yn Aberporth yn arbed £899 miliwn.
- Dileu y cynlllun i sefydlu y Coleg Technegol Milwrol yn Sain Tathan yn arbed £12 biliwn.
- Dod â rhyfel Afghanistan i ben yn arbed £3.9 biliwn y flwyddyn.
Gallwch weld awgrymiadau rhai o gefnogwyr y Gymdeithas yn y sioe sleidiau yma.
Os hoffech yrru neges mewn llun eich hun, galwch yn y Babell Heddwch (stondin 705/706) yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dymuna Cymdeithas y Cymod benodi:-
CYDLYNYDD
Fydd yn gweithio ar liwt ei hun ac yn derbyn tâl o £2500 y flwyddyn am ddarparu gwasanaethau i'r Gymdeithas. Bydd y cytundeb am ddwy flynedd.
(Mae disgwyl i'r llwyth gwaith gyfateb i hanner diwrnod o waith yr wythnos.)
Rydym yn edrych am berson brwdfrydig sydd â sgiliau rhyngbersonol ardderchog i gydlynu gwaith gwirfoddolwyr ac i drefnu gweithgareddau.
Am fanylion pellach cliciwch yma.
Dylid anfon llythyr drwy e-bost at: cymdeithasycymod@btinternet.com.
Dyddiad cau: 1af Medi 2010
Gallwch ddilyn Cymdeithas y Cymod ar Twitter neu ddod yn ffrind iddi ar Facebook.
