Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Niclas y Glais
(1879-1971)

Ni fu erioed fwy o wrthwynebydd i ryfela na T. E. Nicholas. Ni welai ddiben i ladd am nad oedd, yn ei dyb, yn gwella cyflwr y dyn cyffredin.

Condemniai'r hyn a ystyriai'n ymrafael i gynnal 'y drefn ysbail' fel y galwai gyfalafiaeth. Er hynny, gosodai Niclas derfyn ar ei heddychiaeth. Doedd ganddo ddim gwrthwynebiad i'r defnydd o drais fel rhan o'r Chwyldro Bolsheficaidd yn Rwsia yn 1917. Gwelai ddisodli gafael y Tsariaid yn gam tuag at greu teyrnas nefoedd ar y ddaear.

Yn 1898, wedi cyfnod byr yn y Rhondda, ymrestrodd fel myfyriwr yn Academi'r Gwynfryn yn Rhydaman o dan athrawiaeth Gwili a Watcyn Wyn a'i olygon ar y weinidogaeth. Yn 1901 yn 22 oed derbyniodd alwad i weinidogaethu capel sblit yn Llandeilo.

Trwy hynny dechreuodd ar yrfa ddadleuol a chythryblus fel gweinidog. Roedd aelodaeth capel yr Annibynwyr, Tabernacl, yn Ffairfach gerllaw, wedi tyfu i'r graddau y penderfynwyd codi capel yn nhref Llandeilo ar gyfer carfan o'r 600 o aelodau. Aeth yn ymrafael ynghylch lleoliad a phenderfynodd un garfan feddiannu hen gapel bychan y Wesleaid am eu bod nhw'n symud i adeilad mwy. Mae'n siwr y medrai Niclas ddewis gofalaeth amgenach na fyddai'n gymaint o her iddo. Ond hwyrach mai dyna oedd yn apelio wrth iddo gael ei ordeinio a'i sefydlu yn Horeb.

Yn 1903 gadawodd Horeb a hwylio i Dodgeville, Wisconsin gyda'i wraig newydd Alys Hopkins. Ond byr fu ei arhosiad fel gweinidog yn yr Unol Daleithiau. Denwyd y Parch T. E. Nicholas a'r teulu i Seion, Y Glais, yn 1904 ac arhosodd yng Nghwm Tawe tan 1914. Yn 1911 penodwyd Niclas yn olygydd Cymraeg y Merthyr Pioneer a sefydlwyd gan Keir Hardie, yr AS Llafur dros Ferthyr. Niclas oedd llais Cymraeg Sosialaeth. Siom i'r ddau oedd methiant gweithwyr Ewrop i gynghreirio i wrthwynebu'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y cyfnod hwn ymwelai Niclas, yn ei dro, â'r Tŷ Gwyn yn Rhydaman, sef hen adeilad y Ficerdy a brynwyd yn 1913 gan George Davison, y miliwnydd a pherchennog cwmni Kodak, at ddefnydd gweithwyr cyffredin i wyntyllu syniade sosialaidd. Amharod oedd y capeli i roi defnydd o Festrïoedd i gynnal cyfarfodydd o'r fath yn enw'r Blaid Lafur Annibynnol.

Yn 1914 symudodd Niclas i gymryd gofal o eglwysi yn Llangybi yng Ngheredigion ond ni fu'n hir cyn rhoi'r gore i'r weinidogaeth lawn amser am fod ei ddaliade radical yn golygu na chai groeso yn holl bulpudau'r wlad. Collodd yn drwm pan safodd fel ymgeisydd seneddol yn hen sedd Hardie yn Aberdâr yn 1918. Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n barod i ysgwyd llaw â Jyrman dywedodd y gwnelai hynny'n llawen. Gyda hynny daeth ei yrfa wleidyddol seneddol i ben cyn iddi ddechre.

Trodd at ddeintydda i ennill bywoliaeth ac ymsefydlu yn Aberystwyth lle bu tan ei farwolaeth yn 1971. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol er ni ellir dweud iddo chwarae llawer o ran yn ei threfniadaeth na sefyll yr un etholiad yn ei henw. Esgynnai i bulpudau'r wlad fel pregethwr llawrydd a mynych oedd y galwadau arno fel darlithydd yn arbennig wedi ei ymweliad â Rwsia yn 1935. Fe'i hadwaenid fel 'y darlithydd coch' gyda'i fap mawr a'i bwyntil.

Yn 1940 cafodd ynte a'i fab, Islwyn, eu carcharu ar amheuaeth o fod yn ffasgwyr gan dreulio cyfnod yng ngharchar Brixton. Ond ni fu hynny'n rhwystr iddo ddal at ei ddaliade yn ddiwyro. Ni chollai'r un cyfle i gollfarnu cyfalafwyr a theuluoedd brenhinol, gan orseddu dysgeidiaeth foesol ac ymarferol yr Iesu uwchlaw dogma ac athrawiaeth.

Hefin Wyn

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig