Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

John Puleston Jones (1862-1925)

WELEDYDD CALON LYDAN - Dyma'r geiriau a naddwyd ar faen coffa'r gweinidog a'r heddychwr John Puleston Jones, ar fur ei gartref yn Stryd Fawr y Bala, gyferbyn â chofgolofn Tom Ellis, A.S., un o gyfeillion Puleston. Uwchben y geiriau uchod ceir, PREGETHWR HEDDYCHWR A CHYMRO DA. Er iddo golli'i olwg yn flwydd a hanner dywedwyd ei fod yn gweld ymhellach a chliriach na'r mwyafrif. "Rydach chi'n gweld yn bellach na neb ohonom ni, ac yn dweud y gwir yn rhy fuan a ninnau ddim yn barod i'w dderbyn", oedd sylw un o'i aelodau ym Mhenmount, Pwllheli. Un o gyfeillion pennaf Puleston oedd Heddychwr Mawr Cymru, George M.LL. Davies ac yn ei bortread ohono yn Cenhadon Hedd, un o Bamffledi Heddychwyr Cymru, dywed: "Yr oedd yn ddall, ac eto yn amgyffred yn ddyfnach ac ymhellach na'i gyfoedion, yn grefftwr medrus, yn arddwr deallus, yn gallu trin a marchogaeth ei geffyl, ac - o bob camp yn gallu tynnu'i deipiadur Braille oddi wrth ei gilydd a'i ail-osod".

"Y dwysaf a'r dewraf o Genhadon Hedd y Gogledd", meddai George Davies, ac yr oedd y ddau yng nghwmni naw arall yn y Bermo ym 1916 mewn cyfarfod i hybu cenhadaeth hedd yn nyddiau tywyll y rhyfel. Cytunwyd i gyhoeddi cylchgrawn i hyrwyddo egwyddorion heddychiaeth, ac yn Hydref cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Deyrnas, gyda Thomas Rees a Hywel Harris Hughes yn olygyddion. "Mewn ysgrif yn y rhifyn hwnnw gan 'Ŵyr i John Jones, Talysarn', ceryddodd George Davies y Prifweinidog D. Lloyd George", yn ôl E.H. Griffiths, yn Heddychwr Mawr Cymru, "am ddyfynnu hwyl heb ddyfynnu pregeth John Jones. Rhydd George yn ei ysgrif ddyfyniad hir o bregeth ei daid ar Sechareia 4,6: 'Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd i, medd Arglwydd y lluoedd'.

Cyfrannodd Puleston yn aml i'r cylchgrawn a dyma ddau ddyfyniad o 1918: "Nid oes bosibl adrodd yn rhy aml, mai dioddef drwy ymladd ydyw rhyfel; ymladd drwy ddioddef ydyw'r Groes". Ac wrth gymeradwyo Cristnogaeth dywed: quot;Hi ddeil ei safonau ei hun o flaen dynion sy eto heb ei derbyn hi. Hi fyn edrych ar ddynolryw i gyd fel aelodau o gorff dirgeledig Iesu Grist. Ar ddynion y mae'r bai os nad ydynt. Yr un peth ydyw cariad rhwng dwy genedl a rhwng dau ddyn. Gall ei weithredu amrywio; ond yr un fydd ei amcan ym mhob man".

Y mae Ioan Wyn Gruffydd yn ei ysgrif ar Puleston yn Herio'r Byd, ar "l dyfynnu'r sylw "Pobl ffyrnig o ryfelgar sy o'm cwmpas i ym Mhwllheli", yn ychwanegu, "Dywedwyd geiriau brwnt a chreulon wrtho lawer gwaith. Pan bregethai, clywid rhywrai yn y gynulleidfa yn pesychu eu hanghymeradwyaeth. A byddai dadlau ac anghytuno mawr ag ef yn ystafell y blaenoriaid ac yn y lletyau. Yng ngeiriau Alun Puleston, cafodd ei dad lawer gwaith 'ei frifo yn nhŷ ei garedigion'.

Siomwyd Puleston yn agwedd ei gyfeillion megis John Williams, O.M. Edwards a John Morris-Jones, a fu wrthi'n cefnogi ymgyrch recriwtio Lloyd George. Yr un oedd ei siom yn ei gyfaill Syr Henry Jones a ddaeth i Bwllheli i gefnogi ymgyrch y Prifweinidog. "Plediai achos y Llywodraeth nad oedd 'ffordd arall' boed y canlyniad beth y bo", meddai George Davies, gan ychwanegu, "Yna cododd Puleston, ac meddai, 'Y mae gen' i gwestiwn, Syr Henry, a dyma fo - Y mae ffordd arall on'd oes? 'Y mae ffordd arall'. Nid gwrthdystiad yn erbyn rhyfel oedd gwedd amlycaf Protestaniaeth Puleston, eithr tystiolaeth am 'ffordd arall' - y 'ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist'.

Y mae Ioan W Gruffydd yn cloi'i bortread o Puleston drwy sôn amdano'n annerch ar ôl y Prifathro Thomas Rees yn Seiat y Tangnefeddwyr ym Mhwllheli ac yn traethu ar 'Arglwyddiaeth Crist': Yr oedd Prydain, meddai, am i gariad fynd i'r gegin i olchi'r llestri ond nid oedd lle iddo yn y parlwr i reoli'r holl dŷ. Câi cariad gyflawni ambell ddyletswydd fach, ond nid oedd lle iddo gael teyrnasu. Nid gwas oedd Cariad i fod, ond brenin. Ar ei ffordd i'w orsedd yr oedd. Ac nid oes a wad bellach na wnaeth John Puleston Jones, y pregethwr dall a welai ymhellach na llawer o'i gyfoeswyr, ei ran i hybu Cariad ar ei ffordd i'w orsedd.

Da fyddai bawb fydd yn mynd i Brifwyl y Bala fyddai oedi wrth gofeb Puleston ac wrth ei fedd ym mynwent Eglwys Crist, gan ddiolch i Dywysog Tangnefedd am 'Weledydd Calon Lydan'.

W J Edwards

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig