Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Richard Roberts
(1874-1945)

Ganed Richards Roberts ym Mlaenau Ffestiniog ar 31 Mai 1874. Roedd ei dad, David Roberts, yn weinidog gyda'r Hen Gorff a bu'n chwarelwr cyn cael ei ordeinio. Yn y Blaenau y cafodd Richard ei addysg gynnar, a dywedodd 'Mi gefais y gansen yn fynych yn siarad Cymraeg yn ystod oriau ysgol, ond methodd y gansen â'm dysgu i beidio â siarad Cymraeg, dim ond fy ngwneud yn benderfynol o beidio â chael fy nal wrthi eto.' Wedi tair blynedd mewn ysgol uwchradd, cafodd ysgoloriaeth i fynd i'r Liverpool Institute, ac ym 1890 cafodd ysgoloriaeth bellach i fynd i Goleg y Brifysgol Aberystwyth, ac oddi yno i Goleg y Bala, gyda Thomas Charles Edwards yn brifathro arno. Wedi graddio, aeth yn weinidog i Dreharris, ac fel un a gredai yn yr efengyl gymdeithasol, aeth ati i wleidydda, gan sefydlu cangen o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP) yn yr ardal, a chynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored fel y gwnaethai gyda'i genhadu crefyddol. Ar ôl symud i Lundain, bu'n weinidog yn eglwys genhadol Saesneg Westbourne Grove, ond oherwydd ei heddychiaeth, gorfodwyd ef i adael, a daeth yn weinidog Capel Cymraeg Willesden Green, lle y cyfarfu â'i wraig, Anne Thomas, a bu'r ddau yn fawr eu gofal dros y nifer fawr o fechgyn a merched ifanc o Gymru a ddaethai i'r ddinas i weithio.

Cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol llawn-amser cyntaf Cymdeithas y Cymod (British FOR) yn 1915, gyda George M. Ll. Davies yn Ysgrifennydd Cynorthwyol iddo. Am flynyddoedd cyn hynny bu'n weithgar gyda Mudiad Gristnogol y Myfyrwyr, ac fel un a oedd yn frwd dros yr Ysgol Sul, amlinellodd gynllun uchelgeisiol i'w diwygio mewn llyfr a gyhoeddwyd ym 1909. Dilynwyd y gyfrol honno gan naw llyfr arall, gan gynnwys The Contemporary Christ ym 1938. Aeth i'r Unol Daleithiau ym 1916 ar ran FOR i sefydlu cangen yno, a'r flwyddyn ddilynol derbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog eglwys annibynnol enwog yn Efrog Newydd, 'The Church of Pilgrims', gan ddod ar unwaith yn un o arweinwyr Cymdeithas y Cymod yn yr Amerig, ac yn aelod dylanwadol o fwrdd golygyddol ei chylchgrawn, World Tomorrow. Buasai wedi hoffi dychwelyd i Gymru, ond ni chafodd gyfle, ac ar ôl 1921, ymgartrefodd yng Nghanada, lle y daeth yn adnabyddus fel pregethwr, darlledwr, awdur a darlithydd academaidd poblogaidd iawn. Pan fu farw ar Ebrill 10 1945, danfonwyd ei lwch i Gymru, ac mewn gwasanaeth byr o dan arweiniad ei hen gyfaill George M. Ll. Davies, a Dan Thomas, fe'i gwasgarwyd ar ochrau creigiog Pared y Cefn Hir yn ymyl Cader Idris.

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig