Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Rosalind Bevan
(1915 - 2004)

Cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd roedd Rosalind Bevan (nawr Rusbridge) yn athrawes yn y clasuron yn Ysgol Glanmor i Ferched yn Abertawe. Bu'n aelod o Grŵp Heddychwyr Abertawe ers 1938, gan rentu stondin heddwch yn ei henw ym Marchnad Abertawe. Dywedodd: "Roeddwn yn sosialydd a heddychwraig ar sail Gristnogol cyn i fi adael ysgol yn 1933. Rwy'n cofio George Lansbury yn siarad yn y Neuadd Ganolog yn Abertawe, ac roedd Gwynfor yno. Ni chymrodd pobl fawr o sylw ohonom cyn y rhyfel, ond roeddem yn rhentu stondin ym marchnad Abertawe gan werthu Peace News. Roedd Gwynfor Evans yn help mawr i ni. Byddem yn cynnal cyfarfodydd yn Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn Abertawe. Pan ddechreuodd y rhyfel o ddifrif aethom ar ein beiciau i Bontarddulais a chawsom ein hatal gan dorf fawr o bobl oedd yn ein gwrthwynebu yn gweiddi 'Ewch yn ôl i Abertawe, y blydi conchies!'"

Erbyn 1940 roedd mudiad o'r enw the League of Swansea Loyalists wedi ei ffurfio i wrthwynebu'r heddychwyr, gan ymgyrchu i gau'r Stondin Heddwch ym Marchnad Abertawe. Roedd y stondin ar rent dan enw Rosalind Bevan, a gwrthododd hi ildio i gais gan Gyngor Tref Abertawe i gau'r stondin. Felly aeth Clerc y Dref yn ei flaen i gau'r stondin. Protestiodd Heddychwyr Cymru yn erbyn y cau gan ddweud fod Cyngor y Dref wedi torri'r cytundeb rhentu.

Ond roedd gwaeth i ddod wrth i'r bomiau ddechrau disgyn ar Abertawe. Ymunodd y Lleng Brydeinig yn Abertawe gyda'r League of Swansea Loyalists i hawlio fod Cyngor Abertawe yn diswyddo gweithwyr y Cyngor oedd yn gwrthwynebu'r rhyfel. Penderfynodd Cyngor Abertawe ar 28 Mehefin 1940 ofyn i'w gweithwyr arwyddo Datganiad Teyrngarwch, ac mi fyddai'r rhai oedd yn gwrthod arwyddo yn cael eu diswyddo. Roedd y Datganiad Teyrngarwch yma yn gofyn tri chwestiwn sef "Ydych chi yn aelod o'r Peace Pledge Union?", "Ydych chi yn aelod o'r bumed golofn?" (sef bod yn gefnogwr neu ysbïwr y gelyn) ac "Ydych chi o blaid llwyddiant y rhyfel?"

Collodd 19 o weithwyr y Cyngor eu swyddi, ac roedd deg o'r rhain yn ferched, yn eu plith Rosalind Bevan. Yn ddiweddarach yn yr hydref penderfynodd y Cyngor i ddiddymu'r diswyddiadau. Ond penderfynodd Rosalind Bevan wrthod derbyn ei swydd yn ôl a gadael Abertawe i edrych am waith, a bu fyw gweddill ei oes yn alltud yn Lloegr. Daliodd i weithio dros heddwch ac roedd yn aelod o CND Cristnogol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Rosalind Bevan yn erthygl Ursula Masson yn Radical Wales 1991, "Loyalty and Dissent in Wartime Wales".

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig