Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Samuel Roberts
(1800-1885)

Yn y llyfryn 'Helyntion Bywyd S. R.', a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun "ar ddymuniad rhai o'i gyfeillion", dywedir iddo gael ei hyfforddi o'i febyd gan ei dad "yn egwyddorion nefol Cymdeithas Heddwch." Nid yn unig fe glywodd am y 'press-gangs' yn llusgo rhai o'i hynafiaid i'r fyddin a'r llynges, ond fe welodd hynny â'i lygaid ei hun pan oedd yn yr ysgol yn yr Amwythig. Er mor ifanc ydoedd, nid eto'n ddeuddeg oed, fe ffieiddiodd at yr arfer o "hudo a meddwi a llwgrwobrwyo hogiau i ymrestru yn y fyddin."

Dyn o feddwl aml-geinciog oedd S. R. - "the myriad-minded man", fel y dywedwyd am Coleridge. Gwrthododd blygu glin i dduw 'y pethau fel y maent' gan roi ei fwyell ar wreiddyn pren bywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Yn ddiweddar fe glywsom ni Barack Obama yn pledio'r angen am newid yn agwedd America. Ar faner 'byd newydd' S. R. yr oedd dau air mewn llythrennau tân - Rhyddid a Heddwch.

Plediai ryddid i'r caethwas, masnach rydd, rhyddid gwleidyddol, rhyddid crefyddol gan ddinoethi ei fraich hyd y bôn o blaid buddugoliaeth y meddwl anghydffurfiol, gwerinol Annibynnol Gymraeg.

"S. R." meddai Dyfnallt Owen amdano "oedd Apostol Heddwch Cymru megis yr oedd Henry Richard yn Apostol Heddwch Ewrop a'r byd". Yn 1826 derbyniodd alwad i gyd-weinidogaethu â'i dad, J. R., gan swyddogion yr Hen Gapel, Llanbrynmair. Pan fu farw ei dad yn 1834 dilynodd S. R. ef fel tenant yn fferm Y Diosg, fel ysgolfeistr ysgol y Capel ac fel gweinidog. Gan fod ganddo naw o gapeli eraill dan ei ofal fe'i gelwid â dirmyg gan rai o'i elynion yn 'Sam y Deg Capel'.

Credai mai gwreiddyn problemau'r oes oedd na fynnai dynion wrando neges brawdgarwch yr efengyl. Hynny a barai gaethiwed o bob math, ac a rwystrai ryddid. Hynny oedd yn cyfrif am greulondeb a gwastraff rhyfeloedd rhwng y cenhedloedd. Iddo ef, ystyr Cristnogaeth oedd fod dynion oll, beth bynnag eu lliw, eu hiaith a'u dosbarth yn gydradd fel brodyr yng ngolwg Duw. Rhaid oedd iddynt felly gydnabod hawliau ei gilydd ac ymddwyn fel brodyr.

Yr unig arfau teilwng oedd perswâd a rheswm, 'yr arfau nad ydynt gnawdol'. Credai na fu erioed yr un rhyfel da na'r un heddwch gwael. Gwastraff llwyr oedd rhyfel yn ei olwg. Dymunai weld pobloedd byd yn rhoi heibio cenfigen a malais, a pheidio ag afradloni'u hadnoddau trwy gadw byddinoedd anferth er mwyn setlo'u cwerylon trwy nerth arfau.

Yn 1850, anfonwyd ef yn un o gynrychiolwyr Cymru i'r gynhadledd fawr gydwladol tros heddwch a gynhaliwyd yn Frankfurt. Pryd bynnag ac ymhle bynnag y rhyfelai milwyr yn erbyn brodorion diamddiffyn, yn enwedig yn India ac Affrica, codai S. R. ei lais dros y gwan a'r dirmygedig. Rhyfel y Crimea, 1854-6 "a roes y cyfle gorau i S. R. ddangos mor dreiddgar y gallai feirniadu rhyfeloedd a'u hachosion, a chynnig rhywbeth gwell yn eu lle." Nid oedd ganddo gynnig clywed sôn am y rhyfel fel brwydr dros grefydd oherwydd meddai 'od oes dim awdurdod yn neddfau Iesu, y mae ysbryd rhyfelgar Lloegr yn codi yn erbyn yr awdurdod hwnnw.'

Rhyfel Cartref America 1861-5, ac yntau bellach wedi symud i fyw i Tennessee, rhwng taleithiau'r De a'r Gogledd, a ddrylliodd ei obeithion yn llwyr. Ei farn am gaethiwed a rhyfel oedd 'mai dau gythraul o efeilliaid ydynt, o'r pydew isaf; a gwallgofrwydd ydyw ceisio cyflogi rhyfel i fwrw allan gaethiwed.'

Heddwch rhwng y cenhedloedd a gâi'r lle blaenaf yn ei ymdrechion. Ni wnaeth y rhyfeloedd a welai ond cadarnhau ei farn mai prif angen dynoliaeth oedd diorseddu rhyfel ac achosion rhyfel o galonnau dynion, a dyrchafu cariad brawdol yn eu lle.

Wedi dychwelyd i Gymru, i Gonwy, yn 1867 parhaodd S. R. i wrthwynebu rhyfel. Meddai Dr D. Ben Rees amdano "Hyd ei anadl olaf ar 24 Medi 1885 ni phallodd 'S. R.' â phleidio heddychiaeth." Yn ei bregethau a'i ddarlithoedd, fel ar dudalennau Y Cronicl, gwrthwynebodd pob ymgais i 'ddysgu crefft rhyfel' gan dynnu sylw at 'ffolineb a gwastraff holl ryfeloedd byd.'

R Alun Evans

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig