Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Merfyn Turner a Dyfnallt Morgan

Profiadau dau wrthwynebwr cydwybodol Cymraeg yn yr Ail Ryfel Byd

Ym 1940 carcharwyd Cymro pump ar hugain oed mewn tribiwnlys yn Aberystwyth i dri mis o lafur caled am ei safiad fel gwrthwynebwr cydwybodol. Ei enw oedd Merfyn Turner. Dengys Dewi Eirug Davies yn ei gyfrol werthfawr Protest a Thystiolaeth bod y mwyafrif o wrthwynebwyr cydwybodol yn yr Ail Ryfel Byd wedi cytuno i wneud rhyw waith anymladdol, ond 'gwrthododd Merfyn Turner, ar dir cydwybod, dderbyn unrhyw orchymyn o du'r llysoedd'. Yn ôl ei gyfaill Tilsli, dadleuodd ei achos ei hun yn 'benderfynol a di-droi'n ôl', gan ddyfynnu geiriau Luther "Yma y safaf: ni allaf wneud yn amgen". Aeth ei gyfaill mynwesol, Dyfnallt Morgan, o flaen tribiwnlys yn Aberystwyth yn ystod 1940 hefyd, a phenderfynodd ymuno ag un o Unedau Gwasanaeth y Peace Pledge Union yng Nghymru. Byddaf yn sôn am brofiadau cyferbyniol y ddau ffrind fel gwrthwynebwyr cydwybodol, un yng ngharchar Abertawe a'r llall mor bell dros y moroedd â China wledig.

Disgrifia Merfyn Turner, yn ei gyfrol A Pretty Sort of Prision, weld carcharor am y tro cyntaf ar y ffordd i'r ysgol pan oedd yn ddeg mlwydd oed. Roedd y gŵr anffodus hwn wedi cael ei orymdeithio mewn gefynnau trwy stryd fawr y dref i lys yr ynadon. Aeth Turner trwy'r un profiad diraddiol yn Aberystwyth: 'That my offence was only a matter of refusing to join the Forces...did nothing to lessen the pain of public parade.' Wedi iddo gyrraedd y carchar ar noson aeafol, oer, fe'i diraddiwyd ymhellach trwy ei orchymyn i ddadwisgo, sefyll yn noeth ar y llawr llechen a golchi ei hun ym math rhif tri. Ar ôl gwisgo'i iwnifform carchar fe'i gorymdeithiwyd i sefyll gyda'r carcharorion newydd eraill ac i ddisgwyl arolygiad y meddyg. Bu mewn cyflwr o sioc emosiynol ddwfn am y pythefnos cyntaf. Roedd yn smygu'n drwm cyn cyrraedd, ond collodd ei flas am dybaco yn llwyr. Daeth y blas yn ôl wrth iddo gyfarwyddo â rheolau ag amodau'r carchar; rhai llym a dorrodd yn aml trwy ysmygu mwy na'r mwyafswm a bennwyd gan awdurdodau'r carchar. Dysgodd yn gyflym mai torri'r fath fân reolau oedd yr unig ffordd i gael ei gyd-garcharorion i'w dderbyn beth bynnag.

Rhestrodd Turner effeithiau niweidiol a dinistriol carcharu yn sgîl ei brofiad personol: anesmwythder corfforol trwy orfod cysgu mewn cell oer, heb fawr i'w orchuddio yn y gwely caled; awch cyson am fwyd; yn bennaf oll, difrod seicolegol trwy nid yn unig ddarostwng y carcharor ond hefyd rheoli ei fywyd allanol. Fe'i gorfodwyd felly i ddibynnu'n gyfan gwbl ar yr awdurdodau i gyflenwi ei anghenion. Roedd y fath amodau a rheolaeth lem yn gorfodi carcharorion i ymchwelyd i'w plentyndod, yn ei dyb ef. Yn swyddogol, nid oedd hawl gyda'r carcharorion i hyd yn oed siarad â'i gilydd nac i ofyn am gymorth o'r swyddogion. Bu'n rhaid iddo ddysgu pob un o arferion dyddiol y carchar trwy wylio ei gyd-garcharorion a dilyn eu hesiampl. Rhydd ddisgrifiad grymus o amgylchfyd hollol ddigysur ac oeraidd y carchar: "There is something fiendish and sadistic about its internal design, with its contradictory sensations of impenetrability and constant exposure. Everything is strong, yet affords no cover...."

Ei gefndir fel mab i weinidog Wesle oedd yn gyfrifol am heddychiaeth Merfyn Turner i raddau helaeth, a'i ffydd ym mhosibiliadau dynoliaeth am ddaioni os yw'r amodau cymdeithasol iawn yn cael eu creu er mwyn iddynt flodeuo. Nid ffydd naïf neu freuddwydiol mewn 'natur ddynol', ond ffydd ymarferol, ddyngarol bod ffordd amgen o drefnu cymdeithas yn bosib, nad oedd yn ddibynnol ar filitareiddio a charcharu. Gwelodd bod y carchar yn rhan o'r un peirianwaith cymdeithasol awdurdodaidd â'r fyddin ac ysgolion bonedd, a'i fod yn amhosib adeiladau cymdeithas fwy heddychlon a gwâr tra bod y fath sefydliadau Fictoraidd yn dal i sefyll.

Gŵr o empathi a thrugaredd anarferol ydoedd a ddysgodd trwy ei brofiad personol mai tlodi ac anghyfartaledd cymdeithasol oedd yn fwyaf cyfrifol am droseddau'r mwyafrif o garcharorion. Treuliodd gweddill ei fywyd o 1940 hyd ei farwolaeth ym 1991 yn gwneud gwaith cymdeithasol blaengar ac arbrofol, yn bennaf gyda chyn-garcharorion. Cariad diamod oedd sail ei waith, fel ei heddychiaeth, a dderbyniai pob unigolyn fel rhan o'r un greadigaeth a'r un bywyd beth bynnag fo'i ffaeleddau neu droseddau. Sefydlodd y tŷ hanner ffordd cyntaf ym Mhrydain ar gyfer dynion oedd newydd adael y carchar ym 1955. Dilynwyd esiampl arloesol Norman House mewn degau o dai tebyg ar draws Prydain.

Llion Wigley

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig