Ymgyrchoedd
Mudiad sy'n ymgyrchu dros heddwch a dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro yw Cymdeithas y Cymod ar draws y byd.
Y Lefel Bersonol
Mae ein haelodau yn cysegru ei hunain i ddilyn ffordd o fyw di-drais gweithredol fel modd i drawsnewid byd yn bersonol.

Mae hi'n bosib i ni edrych ar ein ffordd o fyw ein hunain gan ystyried a ydym yn gwneud gymaint ag y medrwn yn bersonol i leihau'r gefnogaeth i drais yn ein byd. Er enghraifft a ydym yn:
- Buddsoddi ein harian mewn sefydliadau sy'n ymwrthod rhag y fasnach arfau?
- Prynu nwyddau, neu wasanaethau, sydd heb eu cynhyrchu mewn modd sy'n treisio ein hamgylchfyd neu gorthrymu gweithwyr?
- Gweithredu bob amser mewn dull di-drais wrth ymwneud ag eraill, gan herio eraill yn ein cymdeithas leol, neu ein gweithle sy'n ymddwyn yn fygythiol?
Y Lefel Leol
Mae ein haelodau yn weithgar yn lleol mewn celloedd o'r Gymdeithas ar draws Cymru. Os nad oes cell yn eich ardal chi, beth am gysylltu â ni i drefnu dechrau cell, ac i gael cymorth y Gymdeithas?

Fe welwch fod yna nifer o ymgyrchoedd gennym ar lefel leol sydd i'w gweld yn y digwyddiadur. Hefyd mae'r ymgyrch i gael cynghorau lleol i ddefnyddio'r Pabi Gwyn ar Sul y cofio yn digwydd ar lefel leol.
Ymgyrch leol o bwys ar y funud yw ein cais i atal y Fyddin rhag recriwtio mewn ysgolion a digwyddiadau lleol megis sioeau amaethyddol ac ati.
Y Lefel Genedlaethol
Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn ymgyrchu hefyd ar y lefel genedlaethol fel mudiad sy'n dwyn pwysau ar Lywodraeth y Cynulliad i wneud Cymru yn wlad sy'n dilyn ffordd tangnefedd. Ceisiwn leihau presenoldeb y Fyddin Brydeinig yng Nghymru. Ceisio bwyso ar y Cynulliad i beidio â chefnogi unrhyw gynlluniau gan y Llywodraeth yn Llundain i adnewyddu arfau niwclear, neu i fynd i ryfel mewn gwledydd eraill megis Irac neu Iran.
Y Lefel Ryngwladol
Mae y Gymdeithas yng Nghymru yn rhan o fudiad Cymdeithas y Cymod Ryngwladol sydd â changhennau ac aelodau ar draws y byd. Byddwn yn cydweithio gyda changhennau y Gymdeithas yn Ewrop i ddwyn pwysau ar yr Undeb Ewropeaidd i ddatrys gwrthdaro rhyngwladol mewn dull di-drais. Mae gennym ddiddordeb hefyd i gydweithio gyda ein canghennau yn Israel a Phalestina dros heddwch yn y Dwyrain Canol.
